Rhif y ddeiseb: P-06-1376

Teitl y ddeiseb: Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i daliadau peilot incwm sylfaenol i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches

Geiriad y ddeiseb: Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn talu £1600 y mis i rai plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, fel rhan o gynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol.

Beth am bobl sy’n ei chael yn anodd byw ar lawer llai sydd wedi talu trethi a chyfraniadau ar hyd eu bywyd gwaith.

Ni ddylid caniatáu hyn ac mae’n taro fel addewid gwag i ddenu pleidleisiau.

 

 


1.        Y cefndir

Ym mis Gorffennaf 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot i gynnig incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal ('y cynllun peilot'). Mae’r cynllun peilot yn rhoi taliad incwm sylfaenol o £1,600 y mis (£1,280, ar ôl treth) i bobl ifanc cymwys â phrofiad o fod mewn gofal am 24 mis o’r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed.

Bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal am gyfanswm o 36 mis, gydag unigolion yn dechrau ac yn gorffen eu cyfranogiad yn ystod y cyfnod hwn. Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y byddai dros 500 o bobl ifanc yn gymwys i ymuno â'r cynllun. Erbyn 31 Gorffennaf 2023, roedd 635 o bobl ifanc wedi cael y taliad incwm sylfaenol.

Mae trosolwg o'r cynllun, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, yn nodi’r meini prawf safonol ar gyfer bod yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun peilot. Mae’n nodi y gall person gymryd rhan yn y cynllun peilot os yw:

§  yn gadael gofal ac yn troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023;

§  wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod o 13 wythnos, neu am gyfnodau sy’n dod i gyfanswm o 13 wythnos, a ddechreuodd ar ôl iddo ef neu hi gyrraedd 14 oed, ac a ddaeth i ben ar ôl iddo ef neu hi gyrraedd 16 oed; ac

§  yn gadael gofal ac yn byw yng Nghymru, neu wedi’i osod y tu allan i Gymru ond yn cael ei gefnogi gan adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru.

Gan gyfeirio at blant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches, mae’r trosolwg yn nodi:

Yn unol ag egwyddor Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, caniateir i geiswyr lloches a ffoaduriaid cymwys gymryd rhan yn y cynllun, cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cyffredinol, a bod ganddynt gyfrif banc/cymdeithas adeiladu/undeb credyd.

Felly, mae plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches ac sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun peilot (sef bod yn berson ifanc ‘categori 3’ sy'n gadael gofal a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru) wedi gallu cymryd rhan ynddo.

Ar 31 Gorffennaf 2023 roedd 67 o gyfranogwyr yn y cynllun peilot, neu 11 y cant, yn blant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches neu’n arfer bod yn blant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches ar adeg cofrestru yn y cynllun.

1.1.            Mynediad at gymorth cyfreithiol

Mae’r trosolwg o’r cynllun yn nodi os bydd angen cynrychiolaeth gyfreithiol ar berson ifanc sy’n cael y taliad incwm sylfaenol, efallai na fydd yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol oherwydd lefel yr incwm y mae’n ei gael. Mae’n nodi’r hyn y dylid ei ystyried o dan yr amgylchiadau hyn:

Un o bedair egwyddor allweddol y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yw na ddylai cymryd rhan yn y peilot wneud unrhyw gyfranogwr yn waeth ei fyd. Lle gallai mynediad i gymorth cyfreithiol fod yn ffactor, dylid ystyried hyn fel rhan o’r cyfrifiadau ‘gwell eu byd’ cyffredinol. Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau unigolion newid unwaith y byddant wedi cofrestru â’r peilot ac efallai y bydd angen ystyried hyn ymhellach er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn well eu byd o ddal ati i dderbyn y Cymorth Incwm Sylfaenol.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gais i Lywodraeth y DU yn gofyn i’r rheolau ynghylch cymorth cyfreithiol gael eu llacio ar gyfer pobl ifanc sy’n rhan o’r cynllun peilot. Ar 18 Ebrill 2023, cafwyd cadarnhad gan Lywodraeth y DU nad oedd mewn sefyllfa i allu eithrio aelodau o gynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru o'r profion modd ar gyfer cymorth cyfreithiol.

2.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Ym mis Medi 2020, bu’r Senedd yn trafod cyflwyno cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru, gyda 28 allan o 51 o Aelodau yn pleidleisio o blaid y cynnig.

Ym mis Tachwedd 2021, trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb yn galw am gynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ yn ôl ardal ddaearyddol sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl (gan gynnwys plant, pobl gyflogedig, pobl ddi-waith a phensiynwyr) yn ogystal â phobl ifanc sy’n gadael gofal. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y cynllun i dargedu pobl ifanc sy’n gadael gofal yn un teilwng, ond pwysleisiodd “ni ddylai fod yn waeth ar y rhai sy’n cymryd rhan mewn unrhyw gynllun peilot nag y byddai pe na byddent wedi cymryd rhan ynddo”. Roedd aelodau’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai cynllun peilot effeithiol “gynnwys y rhai sy’n gadael gofal o ystod mor amrywiol â phosibl o gefndiroedd, lleoliadau ac amgylchiadau”.

Cyfeiriodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd at y cynllun peilot incwm sylfaenol yn ei adroddiad ar ddiwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal (Mai 2023). Yn ôl yr adroddiad, er bod potensial incwm sylfaenol i “liniaru amlygiad pobl sy’n gadael gofal i dlodi ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau” i’w groesawu, roedd gan rai rhanddeiliaid a phobl ifanc sy’n gadael gofal bryderon am y cynllun peilot (gan gynnwys pryderon ynghylch camddefnyddio sylweddau a chamfanteisio troseddol). Gan dynnu sylw at yr heriau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cynllun, mae’r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor gan y Comisiynydd Plant yn nodi:

I welcome the ambitions of the Basic Income Pilot to support care leavers, however, I have been made aware of issues with the implementation of the Basic Income Pilot, particularly for Unaccompanied Asylum Seeking Young People. I am aware that some young people’s eligibility for other financial benefits have been impacted, such as with the claiming of student finance, access to housing benefit for those living in supported accommodation and access to legal aid.

Ni ddaeth y Pwyllgor i unrhyw gasgliadau penodol ar y cynllun peilot, ond croesawodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol cadarn ohono, y bydd y Pwyllgor yn ei drafod pan gaiff ei gyhoeddi.

Mae Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi mynegi pryderon am y cynllun peilot, gan ddadlau y gallai rhoi taliad incwm sylfaenol i bobl nad oes ganddynt statws sefydlog weithredu fel “ffactor atyniadol i lenwi pocedi smyglwyr pobl yr ochr arall i'r sianel”.

Mae pryderon tebyg am y cynllun wedi’u mynegi gan Brif Weinidog y DU a David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

3.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Ar 25 Hydref 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig yn nodi cynnydd y cynllun peilot. Dywedodd fod adborth cynnar gan y bobl ifanc a gymerodd ran yn y cynllun peilot yn gadarnhaol a bod y gyfradd fanteisio dros dro o 97 y cant yn “sylweddol”:

Rydyn ni wedi clywed adborth gwych hyd yma gan y rhai sydd wedi cofrestru. Rydyn ni wrth ein bodd bod y nifer uchaf erioed wedi manteisio ar y cynllun peilot, ond mae’n ddyddiau cynnar o hyd, a bydd yn cymryd blynyddoedd i asesu’r gwir effaith ar eu bywydau.

Mae Prifysgol Caerdydd, o dan arweiniad Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant y Brifysgol (CASCADE yn Saesneg), yn cynnal gwerthusiad pedair blynedd o’r cynllun peilot (Tachwedd 2022-2026). Dywedodd y Gweinidog y bydd y gwaith ymchwil hwn yn olrhain effaith y cynllun peilot ar fywydau’r cyfranogwyr ar hyn o bryd, yn ogystal ag yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth iddynt ddod yn oedolion, ac yn trafod sut mae’r cynllun peilot wedi’i weithredu, beth oedd yr effeithiau a pha gostau oedd yn gysylltiedig ag ef.

Mae gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Pwyllgor Deisebau ar 25 Hydref 2023 yn nodi bod mwy na 600 o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal, ac a oedd yn troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023, wedi cymryd rhan yn y cynllun. Yn ôl y Gweinidog:

[…] care experienced unaccompanied asylum-seeking children have always been included as eligible for the basic income pilot as category three care leavers. n line with our Nation of Sanctuary approach, we want to ensure that unaccompanied asylum-seeking children are supported to rebuild their lives. Enabling eligible young people to participate in the Basic Income for Care Leavers in Wales pilot supports this ambition.

Cadarnhaodd y Gweinidog fod rhai o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y peilot yn blant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches ar adeg cofrestru, ond bod nifer ohonynt wedi cael caniatâd i aros ers hynny (sef yr hawl i fyw, gweithio ac astudio yn y DU, a gwneud cais am fudd-daliadau os yn gymwys).

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.